Duw sy’n codi ei dŷ, Duw sy’n codi ei dŷ Duw sy’n codi ei dŷ ar y graig; Y mae’n dŷ o feini byw, Daw o law’r tragwyddol Dduw, Duw sy’n codi ei dŷ ar y graig. O! mor gadarn yw’r tŷ, O! mor gadarn yw’r tŷ, O! mor gadarn yw’r tŷ ar y graig; […]
Dy deyrnas doed, O! Dduw, Boed Crist yn llyw yn awr; Â’th wialen haearn tor Holl ormes uffern fawr. Ple mae brenhiniaeth hedd, A’r wledd o gariad byw? Pryd derfydd dicter du, Fel fry yng ngwyddfod Duw? Pryd daw yr hyfryd ddydd Pan na bydd brwydyr lem, A thrawster a phob gwanc Yn dianc rhag […]
Dyn dïeithir ydwyf yma, Draw mae ‘ngenedigol wlad; Draw dros foroedd mawr tymhestlog, Ac o fewn i’r Ganaan rad: Stormydd hir o demtasiynau A’m curodd i fel hyn mor bell; Tyred, ddeau wynt pereiddiaf, Chwyth fi i’r Baradwys well. Ac er gwaethaf grym y tonnau Sydd yn curo o bob tu, Dof trwy’r stormydd, dof […]
Dacw’r ardal, dacw’r hafan, Dacw’r nefol hyfryd wlad, Dacw’r llwybyr pur yn amlwg, ‘R awron tua thŷ fy Nhad; Y mae hiraeth yn fy nghalon, Am fod heddiw draw yn nhref, Gyda’r myrdd sy’n canu’r anthem, Anthem cariad “Iddo Ef”. Mae fy hwyliau heddiw’n chware’n, Llawen yn yr awel bur, Ac ‘r wy’n clywed sŵn […]
Dacw gariad, dacw bechod, Heddiw ill dau ar ben y bryn; Hwn sydd gryf, hwnacw’n gadarn, Pwy enilla’r ymgyrch hyn? Cariad, cariad Wela’i ‘n perffaith gario’r dydd. Dringa’ i fyny i’r Olewydd, I gael gweled maint fy mai; Nid oes arall, is yr wybren, Fan i’w weled fel y mae; Annwyl f’enaid Yno’n chwysu dafnau […]
Wedi dod i dy dŷ, Dyma fi i roi mawl i ti; Wedi bod trwy y byd, Does ‘na neb sydd yn debyg i ti. Ti yw’r un sy’n gwneud fy nghalon yn llawen, Er gwaetha’ stormydd yn fy mywyd, Fy moliant rôf i ti a thi yn unig, Ti sydd wedi rhoi d’addewid. Cytgan: […]
Nerth a gawn wrth ddisgwyl wrth ein Duw. Rym am ddisgwyl wrth ein Duw, Rym am ddisgwyl wrth ein Duw. Ein Duw, ti sy’n teyrnasu. Ein craig, ti sy’n ein hachub. Ti Arglwydd yw’r tragwyddol Dduw, Yr un tragwyddol Dduw, Dwyt byth yn blino na llewygu. Ti sy’n amddiffyn y rhai gwan, Cysuro’r rhai sy’n […]
Pwy o Arglwydd allai byth Achub nhw eu hun? Ein c’wilydd oedd fel dyfnder môr, Dy ras oedd ddyfnach fyth. A dim ond ti all achub, Ti yw’r unig un; Dim ond ti all’n codi ni o’r bedd. Daethost lawr i’n harwain o’r tywyllwch du. A dim ond ti sy’n haeddu’r clod i gyd. Do, […]
Dros y bryniau tywyll niwlog, Yn dawel, f’enaid, edrych draw – Ar addewidion sydd i esgor Ar ryw ddyddiau braf gerllaw: Nefol Jiwbil, Gad im weld y bore wawr. Ar ardaloedd maith o d’wyllwch T’wynnu a wnelo’r heulwen lân, Ac ymlidied i’r gorllewin Y nos o’r dwyrain draw o’i blaen: Iachawdwriaeth, Ti yn unig gario’r […]
(Diogelwch yng Nghrist) Deued Satan â’i holl rwydau Deued â’i bicellau tân, Casgled gyfoeth mawr y ddaear, A gosoded hwy o’m blaen; Byth ni’m temtia, Tra fo’m henaid yn dy gôl. Doed eilunod o bob rhywiau, Doed y gwrthrych teca’i bryd, Doed pleserau gwag brenhinoedd I anturio denu ‘mryd; Ofer hynny Tra fo gennyf wrthrych […]