Deuwch gyda mi draw i dŷ fy Nhad, draw i dŷ fy Nhad, draw i dŷ fy Nhad; deuwch gyda mi draw i dŷ fy Nhad lle cawn lawenhau. Nid yw’r ffordd yn bell draw i dŷ fy Nhad, draw i dŷ fy Nhad, draw i dŷ fy Nhad; nid yw’r ffordd yn bell draw […]
Da yw ein byd, wrth lenwi’n hysguboriau heb hidio dim am newyn ein heneidiau; maddau, O Dduw, na fynnwn weled eisiau gwir Fara’r Bywyd. Digon i ni yw’r hyn nad yw’n digoni, yfwn o ffrwd nad yw yn disychedu; maddau, O Dduw, i ni sydd yn dirmygu Ffynnon y Bywyd. Cod ni, O Dduw, o […]
Duw a wnaeth y byd, y gwynt a’r storm a’r lli, ond nid yw e’n rhy fawr i’n caru ni. Duw a wnaeth y sêr sy’n sgleinio acw fry, ond nid yw e’n rhy bell i’n caru ni. Duw a ddaeth un tro i’w fyd, daeth yma’n fyw, a dangos wnaeth i ni mai cariad […]
Dragwyddol Dduw, sy’n Dad holl deulu’r llawr, erglyw ein cri yn ein cyfyngder mawr, yn nos ein hadfyd rho in weled gwawr dy heddwch di. Dy ysig blant sy’n ebyrth trais a brad, a dicter chwerw ar wasgar drwy bob gwlad, a brwydro blin rhwng brodyr; O ein Tad, erglyw ein cri. Rhag tywallt gwaed […]
Deuwn yn llon at orsedd Duw, ein Ceidwad digyfnewid yw; gwyrth ei drugaredd sydd o hyd ar waith ynghanol helbul byd. Gwir yw y gair, fe ddeil yr Iôr i agor llwybyr drwy y môr; lle byddo ffydd fe ddyry ef ddŵr pur o’r graig a manna o’r nef. Deil i waredu, heb lesgau, ei […]
Dos, dywed ar y mynydd, ledled y bryn ac ymhob man, dos, dywed ar y mynydd am eni Iesu Grist. Tra gwyliai y bugeiliaid y praidd drwy’r noson hir, yn syth o’r nef disgleiriodd goleuni dwyfol, clir. A hwythau, wedi’i weled, aent ar eu gliniau ‘nghyd, ac yna mynd ar unwaith i geisio Prynwr byd. […]
Drwy gyfnodau o dywyllwch Drwy y dyddiau trist eu gwedd, Rhoddaist nerth i’r rhai lluddedig I’th glodfori di mewn hedd. Rhoist i’n olau a llawenydd Yn dy gwmni cilia ofn; Iesu, cedwaist dy addewid, Rhennaist ras o’th galon ddofn. Profwyd o gynhaliaeth natur Gwelwyd harddwch yn y wlad, Ti a luniodd y tymhorau Molwn Di, […]
Duw fo yn fy mhen ac yn fy ymresymiad; Duw fo yn fy nhrem ac yn f’edrychiad; Duw fo yn fy ngair ac yn fy siarad; Duw fo yn fy mron ac yn fy nirnad; Duw ar ben fy nhaith, ar fy ymadawiad. HORE BEATE MARIE VIRGINIS, 1514 cyf. R. GLYNDWR WILLIAMS © Mrs Mair […]
Dyma’r dydd i gyd-foliannu Iesu, Prynwr mawr y byd, dyma’r dydd i gyd-ddynesu mewn rhyfeddod at ei grud; wele’r Ceidwad yma heddiw’n faban bach. Daeth angylion gynt i Fethlem i groesawu Brenin nef, daeth y doethion a’r bugeiliaid yno at ei breseb ef; deuwn ninnau heddiw’n wylaidd at ei grud. Deued dwyrain a gorllewin i […]
Dysg imi garu Cymru, ei thir a’i broydd mwyn, rho help im fod yn ffyddlon bob amser er ei mwyn; O dysg i mi drysori ei hiaith a’i llên a’i chân fel na bo dim yn llygru yr etifeddiaeth lân. Dysg imi garu cyd-ddyn heb gadw dim yn ôl, heb ildio i amheuon nac unrhyw […]