Deui atom yn ein gwendid gan ein codi ar ein traed, drwy dy Ysbryd, drwy dy bobol, sefyll yr wyt ti o’n plaid. Deui atom yn ein trallod gyda chysur yn dy lais, drwy dy Ysbryd, drwy dy bobol, parod wyt i wrando’n cais. Deui atom mewn cymdogion am it weld ein lludded ni: ti […]
Dawel nos, ddwyfol nos! Gwenu mae seren dlos; Yntau’n awr, y Mab di-nam, Sydd ynghwsg ar lin ei fam, Draw, mewn hyfryd hedd, Draw, mewn hyfryd hedd. Dawel nos, ddwyfol nos! O! mor fud gwaun a rhos; Ond i glyw bugeiliaid glân Daw ryw bêr angylaidd gân, ‘Heddiw ganwyd Crist: Heddiw ganwyd Crist.’ Dawel nos, […]
Diolch am emyn Am eiriau wedi’u plethu’n dynn Mewn emyn, rhoddwn foliant. Am ddawn y bardd, a chrefftwaith hwn, Fe ganwn er d’ogoniant. Diolchwn am emynau lu Fu’n canu am dy gariad; Trwy ddethol gair, yn gelfydd iawn, Cyd-rannu gawn ein profiad. Ac mewn priodas gair a chân, Cawn hafan o’n pryderon. Fe gawn mewn […]
Down i’th wyddfod, Dduw, kwmbayah, down yn unfryd, Dduw, kwmbayah, i’th foliannu, Dduw, kwmbayah, O Dduw, kwmbayah. Gwna ni’n addfwyn, Dduw, kwmbayah, gwna ni’n un, O Dduw, kwmbayah, wrth dy allor, Dduw, kwmbayah, O Dduw, kwmbayah. Arnom ni, O Dduw, kwmbayah, boed dy wên, O Dduw, kwmbayah, golau d’air, O Dduw, kwmbayah, O Dduw, kwmbayah. […]
Daeth Crist i’n plith, O llawenhawn, a deued pawb ynghyd i’w dderbyn a’i gydnabod ef yn Geidwad i’r holl fyd, yn Geidwad i’r holl fyd, yn Geidwad, yn Geidwad i’r holl fyd. Aed y newyddion da ar led, awr gorfoleddu yw; seinied pawb drwy’r ddaear gron eu cân o fawl i Dduw, eu cân o […]
Dringed f’enaid o’r gwastadedd, o gaethiwed chwantau’r dydd, i breswylio’r uchelderau dan lywodraeth gras yn rhydd. Yno mae fy niogelwch rhag holl demtasiynau’r llawr; caf yn gadarn amddiffynfa gestyll cryf y creigiau mawr. Yno fe gaf ffrydiau dyfroedd, bara a rodder imi’n rhad; gweld y Brenin yn ei degwch fydd i’m llygaid yn fwynhad; yn […]
Deuwn ger dy fron yn awr i’th glodfori, Iesu mawr; diolch iti am yr haf a ffrwythau y cynhaeaf. Rhoddwn iti foliant glân, diolch, Arglwydd, yw ein cân; clod a mawl a fo i ti am gofio’r byd eleni. Diolch iti, Arglwydd Dduw, am gynhaliaeth popeth byw, am gynhaeaf yn ei bryd i borthi plant […]
Diolch, diolch, Iesu, diolch, diolch, Iesu, diolch, diolch, Iesu yw fy nghân; diolch, diolch, Iesu, O diolch, diolch, Iesu, diolch, diolch, Iesu yw fy nghân. ‘Fedra i fyth mo’i amau, ‘Fedra i fyth mo’i amau, ‘Fedra i fyth mo’i amau yw fy nghân; ‘Fedra i fyth mo’i amau, O ‘fedra i fyth mo’i amau, ‘Fedra […]
Daeth eto ŵyl y geni – y ddôl, y pant a’r bryn y’n bloeddio mewn llawenydd y rhyfedd newydd hyn: ddistyllu o holl sylwedd y cread i ffurf dyn, a Mair yng ngwewyr esgor ddug Dduw a’i blant yn un. Daeth eto ŵyl y geni – a chludwn at y tŷ fel doethion gynt, â’u […]
Duw sydd gariad, caned daear, Duw sydd gariad, moled nef, boed i’r holl greadigaeth eilio cân o fawl i’w enw ef; hwn osododd seiliau’r ddaear ac a daenodd dir a môr, anadl pob creadur ydyw, gariad bythol, Duw ein Iôr. Duw sydd gariad, a chofleidia wledydd byd yn dirion Dad; cynnal wna rhwng breichiau diogel […]