logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dyro inni fendith newydd

Dyro inni fendith newydd gyda’n gilydd yn dy dŷ; ti sy’n rhoddi nerth i dderbyn, rho’r gyfrinach oddi fry fel y teimlwn rym dy anorchfygol ras. Boed i ni, drwy eiriau dynion, brofi rhin dy eiriau di, a’u hawdurdod yn distewi ofnau’r fron a’i balchder hi; trwy dy gennad O llefara wrth dy blant. Cyfoethoga […]


Does dim byd allai neud i Ti

Does dim byd allai neud i Ti Fy ngharu mwy na llai nag wyt ti nawr Dim ots i ble dwi’n mynd, dwi’n gwybod wnei fy nilyn Iesu Iesu, O Iesu Iesu. O-o-o-o, O-o-o-o, O-o-o-o, O-o-o-o, O-o-o-o, O-o-o-o, O Ti yw ein Duw sydd yn rhedeg ar ein hôl, Ti yw ein Duw sydd fel […]

  • Gwenda Jenkins,
  • May 14, 2019

Dwed wrth dy Dduw

Dwed wrth dy Dduw [Philipiaid 4:11-14  Alaw: Paid â Deud] Os yw’th galon bron â thorri Dwed wrth dy Dduw, Os yw serch dy ffydd yn oeri Dwed wrth dy Dduw. Ac os chwalu mae d’obeithion Dwed wrth dy Dduw, Fe ddaw’n nes i drwsio’th galon, Dwed wrth dy Dduw. Os mai poenus yw’th sefyllfa […]

  • Gwenda Jenkins,
  • April 23, 2019

Dy Enw Di

Arglwydd clyw fy ngweddi, ’Dwi yma i d’addoli, ’Dwi yma i glodfori, Dy enw sanctaidd di. Mae ’na bŵer yn dy enw, Mae dy ysbryd yn fy ngalw, I droedio’n ddyfnach mewn i’r llanw O dy gariad di. Arglwydd rwyt yn ffyddlon Nei di byth fy ngadael i. Arglwydd cri fy nghalon Yw i foli […]

  • Gwenda Jenkins,
  • May 4, 2017

Duw fy nerth a’m noddfa lawn

Duw yw fy nerth a’m noddfa lawn; Mewn cyfyngderau creulon iawn, Pan alwom arno mae gerllaw; Ped âi’r mynyddoedd mwya’ i’r môr, Pe chwalai’r ddaear fawr a’i ‘stôr, Nid ofnai f’enaid i ddim braw. A phe dôi’r moroedd dros y byd Yn genllif garw coch i gyd, Nes soddi’r bryniau fel o’r blaen; Mae afon […]


Deued dyddiau o bob cymysg

Deued dyddiau o bob cymysg Ar fy nherfynedig oes; Tywynned haul oleudeg llwyddiant, Neu ynteu gwasged garw groes, – Clod fy Nuw gaiff lanw ‘ngenau Trwy bob tymestl, trwy bob hin; A phob enw gaiff ei lyncu Yn ei enw Ef ei hun. Ynddo’n unig ‘rwy’n ymddiried, Hollalluog yw fy Nuw; A ffieiddio’r wyf bob […]


Darfu noddfa mewn creadur

Darfu noddfa mewn creadur, Rhaid cael noddfa’n nes i’r nef; Nid oes gadarn le im orffwys Fythol ond ei fynwes Ef; Dyma’r unig Fan caiff f’enaid wir iachâd. Dan dy adain cedwir f’enaid, Dan dy adain byddaf byw, Dan dy adain y gwaredir Fi o’r beiau gwaetha’u rhyw; ‘Rwyt yn gysgod Rhag euogrwydd yn ei […]


Duw anfeidrol yw dy enw

Duw anfeidrol yw dy enw, Llanw’r nefoedd, llanw’r llawr, Mae dy lwybrau’n anweledig Yn nyfnderoedd moroedd mawr: Dy feddyliau – Is nag uffern, uwch na’r nef! Minnau’n ddyfal sy’n ymofyn Ar yr aswy, ar y dde, Ceisio canfod dwfwn gyngor, A dibenion Brenin ne’: Hyn a ffeindiais – Mai daioni yw oll i mi. Da […]


Duw anfeidrol yw dy enw

Duw anfeidrol yw dy enw, Llanw’r nefoedd, llanw’r byd; F’enaid innau sy’n dy olrhain Trwy’r greadigaeth faith i gyd: Ffaelu â’th ffeindio I’r cyflawnder sy arna’i chwant. D’wed a ellir nesu atat, D’wed a ellir dy fwynhau, Heb un gorchudd ar dy ŵyneb, Nac un gwg i’m llwfwrhau: Dyma’r nefoedd A ddeisyfwn tu yma i’r […]


Duw yw Fy Ngoleuni (Salm 27)

Duw yw fy ngoleuni; yr Arglwydd yw f’achubwr cryf. Duw yw caer fy mywyd, does neb yn gallu ‘nychryn i. Ceisiais un peth gan fy Nuw, Yn ei dŷ gad imi fyw, I syllu ar ei harddwch, a’i geisio yn ei deml bob dydd. Duw fydd yn fy nghadw’n ei gysgod pan ddaw dyddiau gwael, […]