Bydd gyda ni, O Iesu da, sancteiddia ein cymdeithas; glanha’n meddyliau, pura’n moes er mwyn dy groes a’th deyrnas. O arwain ni ar ddechrau’r daith, mewn gwaith ac ymhob mwyniant, fel bo’n gweithredoedd ni bob un i ti dy hun yn foliant. Gwna’n bywyd oll yn ddi-ystaen, boed arno raen gwirionedd; gwna’n bro gan drugareddau’n […]
Brwydra bob dydd, cryfha dy ffydd Crist yw dy nerth i gario’r dydd; mentra di fyw a chei gan Dduw goron llawenydd, gwerthfawr yw. Rhed yrfa gref drwy ras y nef, cod olwg fry i’w weled ef; bywyd a’i her sydd iti’n dod Crist yw y ffordd, a Christ yw’r nod. Rho heibio nawr dy […]
Boed i Dduw roi i ni yn ôl cyfoeth ei rym, Gryfder nerthol drwy’r ysbryd i’n person ni, Ac i Grist wneud ei gartref yn ein calon ni, Ac i ni ddod i wybod faint mae o’n ein caru ni! Cytgan Beth yw’r uchder? [codi breichiau] Beth yw’r dyfnder? [breichiau i lawr] Beth yw’r lled […]
Byw ar ymyl arfaeth Duw bob dydd, Edrych ar yr addewidion oll. Ddim wedi bod ‘ffordd hon o’r blaen, Gall mai heddiw yw y dydd. Chwalu niwl y difaterwch sydd, Gwawriodd newydd ddydd disgwyliad cryf. Ddim wedi bod ‘ffordd hon o’r blaen, Gall mai heddiw yw y dydd. Mwy na holl bŵer fy hyder i […]
Bendith, anrhydedd, nerth a gogoniant Fo i’r Duw tragwyddol yn awr. Yr holl genhedloedd folant, a’r bobloedd Oll ynghyd ymgrymant i lawr. Bydd pob tafod drwy’r ddae’r a’r nef Oll yn canu’th glodydd, A phob glin yn plygu o’th flaen i’th foli, A dyrchafu d’enw, O Dduw. Para fydd dy frenhiniaeth am byth O hardd […]
Bydd yn welediad fy nghalon am byw; Dim ond tydi, a’r hyn ydwyt, fy Nuw; Ynghwsg neu’n effro, bob awr a phob pryd, Ti yn oleuni, Ti’n llenwi fy mryd. Bydd yn ddoethineb, yn air gwir i mi, Ti imi’n gwmni, a mi gyda thi; Tydi yn Dad, a mi’n Fab ar dy lun, Ti […]
Bydd ddewr, bydd gryf, Yr Arglwydd Dduw sydd gyda thi. Bydd ddewr, bydd gryf, Yr Arglwydd Dduw sydd gyda thi. Paid ofni dim a ddaw, Ingoedd, poen na braw; Rhodia mewn ffydd a buddugoliaeth, Rhodia mewn ffydd a buddugoliaeth, Yr Arglwydd Dduw sydd gyda thi. Morris Chapman (Be Bold, Be Strong), cyfieithiad awdurdodedig: Susan Williams ©Word […]
Brynwr mawr, er mwyn y groes a dyfnderau dwyfol loes, er mwyn ing dy gariad drud ddug ddoluriau anwir fyd, pob hunanol nwyd glanha, a phob nefol ddawn cryfha; yma nawr cymhwysa ni, Brynwr mawr, i’th gofio di. Yn y bara, yn y gwin, dyro brawf o’th rasol rin; gan i ti ordeinio’r wledd, paid […]
Bugail f’enaid yw’r Goruchaf, ni bydd mwyach eisiau arnaf; ef a’m harwain yn ddiogel i’r porfeydd a’r dyfroedd tawel. Dychwel f’enaid o’i grwydriadau, ac fe’m harwain hyd ei lwybrau; ar fy nhaith efe a’m ceidw yn ei ffyrdd, er mwyn ei enw. Yn ei law drwy’r glyn y glynaf, cysgod angau mwy nid ofnaf; pery’r […]
Bendithia’r Arglwydd, fy enaid i, bendithia’r Arglwydd, fy enaid i, bendithia’r Arglwydd, fy enaid i. SALM 103:1 addas. MEURIG THOMAS (Caneuon Ffydd 233)