Yn ceisio bendith Yn ceisio hedd Cysur i’m teulu, diogelwch yn y nos Yn ceisio iechyd A llewyrch nawr Yn ceisio nerth dy law i esmwythau ein cur A thrwy hyn oll, ti’n gwrando ar bob gair Ac yn dy gariad di, ti’n gwybod yn well Os trwy dreialon daw dy fendith Os trwy ein […]
Boed i feddwl Crist fy Ngheidwad fyw o’m mewn o ddydd i ddydd, boed i’w gariad lywodraethu oll a wnaf mewn ffydd. Boed i air fy Nuw gartrefu yn fy nghalon i bob awr, fel gall pawb fy ngweld yn ennill trwy fy Arglwydd mawr. Boed i heddwch Duw, Dad nefol, fod yn ben ar […]
Bydd gyda ni, O Dduw ein Tad, ar uchel ŵyl dy blant, a derbyn di ein hufudd glod ar dafod ac ar dant. I’th enw sanctaidd, Arglwydd Iôr, y canwn oll ynghyd; tydi yn unig fedd yr hawl i dderbyn mawl y byd. Am bob rhyw ddawn diolchwn ni, am leisiau pur a glân, am […]
Bydd yn dawel yn dy Dduw, ymlonydda ynddo ef, ac yn sŵn a therfysg byd fe gei ynddo noddfa gref; Duw yw fy nghraig a’m nerth a’m cymorth rhag pob braw, ynddo y mae lloches im pa beth bynnag ddaw; bydd yn dawel yn dy Dduw, ymlonydda ynddo ef, ac yn sŵn a therfysg byd […]
Bydd gyda ni, O Iesu da, sancteiddia ein cymdeithas; glanha’n meddyliau, pura’n moes er mwyn dy groes a’th deyrnas. O arwain ni ar ddechrau’r daith, mewn gwaith ac ymhob mwyniant, fel bo’n gweithredoedd ni bob un i ti dy hun yn foliant. Gwna’n bywyd oll yn ddi-ystaen, boed arno raen gwirionedd; gwna’n bro gan drugareddau’n […]
Brwydra bob dydd, cryfha dy ffydd Crist yw dy nerth i gario’r dydd; mentra di fyw a chei gan Dduw goron llawenydd, gwerthfawr yw. Rhed yrfa gref drwy ras y nef, cod olwg fry i’w weled ef; bywyd a’i her sydd iti’n dod Crist yw y ffordd, a Christ yw’r nod. Rho heibio nawr dy […]
Boed i Dduw roi i ni yn ôl cyfoeth ei rym, Gryfder nerthol drwy’r ysbryd i’n person ni, Ac i Grist wneud ei gartref yn ein calon ni, Ac i ni ddod i wybod faint mae o’n ein caru ni! Cytgan Beth yw’r uchder? [codi breichiau] Beth yw’r dyfnder? [breichiau i lawr] Beth yw’r lled […]
Byw ar ymyl arfaeth Duw bob dydd, Edrych ar yr addewidion oll. Ddim wedi bod ‘ffordd hon o’r blaen, Gall mai heddiw yw y dydd. Chwalu niwl y difaterwch sydd, Gwawriodd newydd ddydd disgwyliad cryf. Ddim wedi bod ‘ffordd hon o’r blaen, Gall mai heddiw yw y dydd. Mwy na holl bŵer fy hyder i […]
Bendith, anrhydedd, nerth a gogoniant Fo i’r Duw tragwyddol yn awr. Yr holl genhedloedd folant, a’r bobloedd Oll ynghyd ymgrymant i lawr. Bydd pob tafod drwy’r ddae’r a’r nef Oll yn canu’th glodydd, A phob glin yn plygu o’th flaen i’th foli, A dyrchafu d’enw, O Dduw. Para fydd dy frenhiniaeth am byth O hardd […]
Bydd yn welediad fy nghalon am byw; Dim ond tydi, a’r hyn ydwyt, fy Nuw; Ynghwsg neu’n effro, bob awr a phob pryd, Ti yn oleuni, Ti’n llenwi fy mryd. Bydd yn ddoethineb, yn air gwir i mi, Ti imi’n gwmni, a mi gyda thi; Tydi yn Dad, a mi’n Fab ar dy lun, Ti […]