Anfeidrol Dduw rhagluniaeth, a Thad y greadigaeth, coronaist eto’r flwyddyn hon â’th dirion ddoniau’n helaeth: ti Arglwydd pob daioni, beth mwy a dalwn iti na chydymostwng, lwch y llawr, yn awr i’th wir addoli? Na foed i’th drugareddau ddiferu ar ein llwybrau a ninnau’n fyddar ac yn fud o hyd i’th nef-rasusau; ein telyn, Iôr, […]
Am y llaw agored, raslon molwn heddiw Dduw y nef; mor ddiderfyn yw y rhoddion a gyfrennir ganddo ef! Ffyddlon yw y cariad dwyfol uwch trueni euog fyd, gyda llaw agored, dadol fyth yn llawn er rhoi o hyd. Llaw y Tad fu’n hulio’r ddaear gyda manna glân y nef, ninnau heddiw yn ddiolchgar roddwn […]
Arglwydd grasol, dy haelioni sy’n ymlifo drwy y byd, a’th drugaredd sy’n coroni dyddiau’r flwyddyn ar ei hyd: dy ddaioni leinw’r ddaear fawr i gyd. Rhoddi ‘rwyt dy drugareddau fel y golau glân bob dydd, a’th fendithion i’n hanheddau yn sirioli’n bywyd sydd: o’th gynteddau rhoddwn ninnau foliant rhydd. WATCYN WYN, 1844-1905 (Caneuon Ffydd 73)
Am gael cynhaeaf yn ei bryd dyrchafwn foliant byw; fe gyfoethogwyd meysydd byd gan fendith afon Duw. O ffynnon glir haelioni’r nef y tardd yn hardd a byw, ac am ei fawr ddaioni ef y dywed afon Duw. O hon yr yf gronynnau’r llawr a’r egin o bob rhyw; nid ydyw gemog wlith y wawr […]
Af i mewn i byrth fy Nuw â diolch yn fy nghalon i, af i mewn i’w gynteddau â mawl, a chyhoeddaf: “Hwn yw’r dydd a wnaeth ein Duw, dewch, gorfoleddwn yn ei enw ef!” Dewch gyda ni, “Iesu” yw ein cri, dewch, gorfoleddwn yn ei enw ef! Dewch gyda ni, “Iesu” yw ein cri, […]
Adnewydda f’ysbryd, Arglwydd, ar dy ddydd, ac yn dy waith; llanw f’enaid â gorfoledd i’m gwroli ar fy nhaith: gyda’r awel gad im glywed llais o’r nef yn eglur iawn yn cyhoeddi bod i’m henaid heddwch a gollyngdod llawn. Gad im ddringo copa’r mynydd rydd lawn olwg ar y tir lle mae seintiau ac angylion […]
Addolwn Dduw, ein Harglwydd mawr, mewn parch a chariad yma nawr; y Tri yn Un a’r Un yn Dri yw’r Arglwydd a addolwn ni. Mae ganddo i’n gwasanaeth hawl, a gweddus inni ganu mawl; down ger ei fron a llafar gân, rhown iddo glod o galon lân. Ei orsedd sydd yn nef y nef, sanctaidd […]
Arglwydd nef a daear, gariad hollalluog, rhyfedd dy ddoethineb a pherffaith yn dy waith; cerddaist ar y tonnau drwy y storm gynddeiriog, a bu tawelwch wedi’r ddrycin faith. Arglwydd, beth a dalwn am dy faith ffyddlondeb? Arwain ni â’th gyngor yn ffordd d’ewyllys fawr, dysg i’r holl genhedloedd heddwch a thiriondeb; eiddot y deyrnas, Frenin […]
Arglwydd Dduw teuluoedd Israel, rho i ninnau’r fendith fawr a goleua’n holl drigfannau â goleuni’r nefol wawr: O llewyrched golau’r nef drwy dir ein gwlad. Dyro fwynder ar yr aelwyd, purdeb a ffyddlondeb llawn, adfer yno’r sanctaidd allor a fu’n llosgi’n ddisglair iawn: na ddiffodded arni byth mo’r dwyfol dân. Aed gweddïau’r saint i fyny […]
Ar yrfa bywyd yn y byd a’i throeon enbyd hi o ddydd i ddydd addawodd ef oleuni’r nef i ni. Fy enaid dring o riw i riw heb ofni braw na haint yn ôl dy ddydd y bydd dy nerth ar lwybrau serth y saint. Y bywyd uchel wêl ei waith ar hyd ei daith […]