Awn i Fethlem, bawb dan ganu, neidio, dawnsio a difyrru, i gael gweld ein Prynwr c’redig aned heddiw, Ddydd Nadolig. Ni gawn seren i’n goleuo ac yn serchog i’n cyf’rwyddo nes y dyco hon ni’n gymwys i’r lle santaidd lle mae’n gorffwys. Mae’r bugeiliaid wedi blaenu tua Bethlem dan lonyddu, i gael gweld y grasol […]
Addfwynaf Frenin, dynol a dwyfol Un, rhyfeddod nef ei hun yn ddyn ac yn Dduw: tragwyddol Air y nef, Crëwr yn gnawd yw ef, yma yn plygu lawr a golchi ein traed. O’r fath ddirgelwch, cariad nid oes ei uwch, plygwch, addolwch, cans hwn yw eich Duw, hwn yw eich Duw. Ef sydd yn haeddu’r […]
Ŵyneb siriol fy Anwylyd yw fy mywyd yn y byd; ffárwel bellach bob eilunod, Iesu ‘Mhriod aeth â’m bryd, Brawd mewn myrdd o gyfyngderau, Ffrind mewn môr o ofid yw; ni chais f’enaid archolledig neb yn Feddyg ond fy Nuw. Yn yr Arglwydd ‘rwy’n ymddiried, pwy all wneuthur niwed im? Dan ei adain mi gysgodaf […]
At un sy’n gwrando gweddi’r gwan ‘rwyf yn dyrchafu ‘nghri; ymhob cyfyngder, ing a phoen, O Dduw, na wrthod fi. Er mor annheilwng o fywynhau dy bresenoldeb di, a haeddu ‘mwrw o ger dy fron, O Dduw, na wrthod fi. Pan fo ‘nghydnabod is y nen yn cefnu arna’ i’n rhi’, a châr a chyfaill […]
Aed grym Efengyl Crist yn nerthol drwy bob gwlad, sain felys i bob clust fo iachawdwriaeth rad: O cyfod, Haul Cyfiawnder mawr, disgleiria’n lân dros ddaear lawr. Disgleiried dwyfol ras dros holl derfynau’r byd, diflanned pechod cas drwy gyrrau hwn i gyd: cyduned pob creadur byw ar nefol dôn i foli Duw. WILLIAM LEWIS, m.1794 […]
Anturiaf ymlaen drwy ddyfroedd a thân yn dawel yng nghwmni fy Nuw; er gwanned fy ffydd enillaf y dydd, mae Ceidwad pechadur yn fyw. Mae f’enaid yn llon a’m pwys ar ei fron; er maint fy nhrallodion daw’r dydd caf hedeg yn glau uwch gofid a gwae yn iach, a’m cadwynau yn rhydd! DAVID DAVIES, […]
Arnom gweina dwyfol Un heb ei ofyn; mae ei ras fel ef ei hun yn ddiderfyn; blodau’r maes ac adar nef gedwir ganddo, ond ar ddyn mae’i gariad ef diolch iddo. Disgwyl y boreddydd wnawn mewn anghenion, ac fe dyr ag effa lawn o fendithion; gad ei fendith ar ei ôl wrth fynd heibio; Duw […]
Awn at ei orsedd rasol ef, dyrchafwn lef i’r lan; mae’n gwrando pob amddifad gri, mae’n rhoddi nerth i’r gwan. Anadla, f’enaid llesg, drwy ffydd, mae’r ffordd yn rhydd at Dduw; mae gras yn gymorth hawdd ei gael, a modd i’r gwael gael byw. Gerbron y drugareddfa lân fe gân yr euog rai; mae iachawdwriaeth […]
Am air ein Duw rhown â’n holl fryd soniarus fawl drwy’r eang fyd; mae’n llusern bur i’n traed, heb goll, mae’n llewyrch ar ein llwybrau oll. Fe rydd i’n henaid esmwythâd, fe’n tywys tua’r nefol wlad gan ddangos cariad Un yn Dri ac ennyn cariad ynom ni. I’r cryf mae’n ymborth llawn o faeth, i’r […]
Am brydferthwch daear lawr, am brydferthwch rhod y nen, am y cariad rhad bob awr sydd o’n cylch ac uwch ein pen, O Dduw graslon, dygwn ni aberth mawl i’th enw di. Am brydferthwch oriau’r dydd, am brydferthwch oriau’r nos, bryn a dyffryn, blodau, gwŷdd, haul a lloer, pob seren dlos, O Dduw graslon, dygwn […]