logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Myfi’r pechadur penna’

Myfi’r pechadur penna’,
fel yr wyf,
wynebaf i Galfaria
fel yr wyf;
nid oes o fewn yr hollfyd
ond hwn i gadw bywyd;
ynghanol môr o adfyd,
fel yr wyf,
mi ganaf gân f’Anwylyd
fel yr wyf.

Mae’r Oen fu ar Galfaria
wrth fy modd,
Efengyl a’i thrysorau
wrth fy modd:
mae llwybrau ei orchmynion
a grym ei addewidion
a hyfryd wleddoedd Seion
wrth fy modd;
a chwmni’r pererinion
wrth fy modd.

1 CASGLIAD SAMUEL ROBERTS, 1841 Priodolir i GWILYM CYFEILIOG, 1801-76
2 HUGH JONES, 1781-1825

(Caneuon Ffydd 768)

PowerPoint