logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mor rhyfeddol yw dy weithredoedd di

Mor rhyfeddol yw dy weithredoedd di,
Arglwydd Dduw hollalluog.
Gwir a chyfiawn yw dy ffyrdd o Dduw,
Brenin yr oesoedd wyt ti.
Pwy sydd na’th ofna Arglwydd,
a’th ogoneddu di?
Oherwydd ti yw’r unig Dduw,
Sanctaidd wyt ti.
Daw yr holl genhedloedd i’th addoli di,
Dy ogoniant di a amlygir.
Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia, Amen.

Lai-lai-lai … (ayb)

Stuart Dauermann, Great and Wonderful, cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones
Hawlfraint © Lillenas Pub. Co./Thankyou Music 1972 Gwein. gan Copycare

(Grym Mawl 1: 44)

PowerPoint