logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mor hawddgar yw dy bebyll di

Mor hawddgar yw dy bebyll di,
Arglwydd y Lluoedd.
F’enaid a hiraetha amdanat ti;
Can’s diogel wyf o fewn dy dŷ.
Molaf dy enw
Dan gysgod clyd d’adenydd di fy Nuw.

Gwell gen i ddiwrnod gyda thi,
Gwell gen i gadw drws dy dŷ,
Gwell gen i ddiwrnod gyda thi
Na mil unman arall.

Un peth a geisiaf gennyt ti
– Cael gweld dy harddwch,
Drwy fyw yn nheml dy ogoniant di

Fy nghalon i a’m cnawd a waeddant am fy Nuw –
Sychedig wyf am ddyfroedd byw.
Dy ddyfroedd brofais i, tyrd eto ataf fi;
Fe glosiaf atat ti, fe glosiaf atat ti.

Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, How lovely is your dwelling place (Better is one day), Matt Redman
Hawlfraint © 1995 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs
ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd

(Grym Mawl 2: 54)

PowerPoint