logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mor deilwng yw’r Oen

Mor deilwng yw’r Oen
fu farw mewn poen
er mwyn i droseddwyr gael byw;
trwy rinwedd ei waed
mawr heddwch a wnaed:
cymodwyd gelynion â Duw.

Pan gododd Mab Duw
o’i feddrod yn fyw
dinistriodd holl gryfder y ddraig;
gorchfygodd drwy’i waed
bob gelyn a gaed:
cydganed preswylwyr y graig.

Pan ddelo’r holl saint
o’r cystudd a’r haint
uwch trallod a phechod a phoen,
fe fydd yr holl nef
â llafar un llef
yn canu mai teilwng yw’r Oen.

CYNDDELW, 1812-75

(Caneuon Ffydd 538)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015