logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mor beraidd i’r credadun gwan

Mor beraidd i’r credadun gwan
yw hyfryd enw Crist:
mae’n llaesu’i boen, yn gwella’i glwy’,
yn lladd ei ofnau trist.

I’r ysbryd clwyfus rhydd iachâd,
hedd i’r drallodus fron;
mae’n fanna i’r newynog ddyn,
i’r blin, gorffwysfa lon.

Hoff enw! fy ymguddfa mwyn
fy nghraig a’m tarian yw;
trysorfa ddiball yw o ras
i mi y gwaela’n fyw.

Iesu, fy Mhroffwyd i a’m Pen,
f’Offeiriad mawr a’m Brawd,
fy mywyd i, fy ffordd, fy nod,
derbyn fy moliant tlawd.

JOHN NEWTON (How sweet the name of Jesus sounds), 1725-1807 cyf. DAVID CHARLES, 1803-80

(Caneuon Ffydd 287)

PowerPoint