logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Molwch yr Arglwydd o’r Nefoedd

Molwch yr Arglwydd o’r nefoedd.
Bloeddiwch ei enw o’r mynyddoedd.
Molwch e, ei holl fyddinoedd.
Yr Arglwydd yw ein Duw
Nawr ac am byth bythoedd.

Fe greodd yr haul, y sêr, a’r lleuad,
Bloeddiwch ei enw yr holl ddaear.

Cytgan
Dewch ynghyd, bob plentyn ac oedolyn,
A phob anifail, o’r neidr i’r aderyn,
Pawb ar y ddaear, a phob dim yn y môr.
Haleliwia, Molwch yr Iôr.

Molwch yr Arglwydd o’r nefoedd.
Bloeddiwch ei enw o’r mynyddoedd.
Molwch e, ei holl fyddinoedd.
Yr Arglwydd yw ein Duw
Nawr ac am byth bythoedd.

Yr un sydd a phŵer dros y tywydd,
Molwn ei enw trwy ein bywyd.

Cytgan
Dewch ynghyd, bob plentyn ac oedolyn,
A phob anifail, o’r neidr i’r aderyn,
Pawb ar y ddaear, a phob dim yn y môr.
Haleliwia, Molwch yr Iôr.
Molwch yr Iôr (x 4).

Molwch enw’r Arglwydd ffyddlon,
Yn diolch am ei holl fendithion.

© Meilyr Geraint 2017 , Noiz Ministries

cordiau gitâr PowerPoint MP3