logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Molwch Arglwydd nef y nefoedd

Molwch Arglwydd nef y nefoedd,
holl genhedloedd daear las,
holl dylwythau’r byd a’r bobloedd,
cenwch glod ei ryfedd ras:
Haleliwia,
molwch, molwch enw’r Iôn.

Mawr yw serch ei gariad atom,
mawr ei ryfedd ras di-lyth,
ei gyfamod a’i wirionedd
sydd heb ball yn para byth:
Haleliwia,
molwch, molwch enw’r Iôn.

NICANDER (Morris Williams), 1809-74

(Caneuon Ffydd 82)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan

 

  • Gwenda Jenkins,
  • January 9, 2015