logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Molwch ar yr utgorn

Molwch ar yr utgorn
a thympan a dawns,
molwch ar y nabl ac ar delyn,
molwch, molwch enw yr Iôr:
molwch ar y symbal llafar,
molwch ar y symbal llafar,
pob perchen anadl, molwch yr Iôr.

Haleliwia! molwch yr Iôr,
Haleliwia! molwch yr Iôr,
pob perchen anadl, molwch yr Iôr.
Haleliwia! molwch yr Iôr
Haleliwia! molwch yr Iôr,
pob perchen anadl, molwch yr Iôr.

Molwch ei gadernid,
molwch ei nerth,
molwch ei sancteiddrwydd a’i holl fawredd,
molwch, molwch enw yr Iôr:
molwch ar y symbal llafar,
molwch ar y symbal llafar,
pob perchen anadl, molwch yr Iôr.

JOHN KENNETT (Praise Him on the trumpet), cyf. SUSAN WILLIAMS
Hawlfraint © 1981 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music.
Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music. Defnyddir trwy ganiatâd

(Caneuon Ffydd 57, Grym Mawl 1:136)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan

  • Gwenda Jenkins,
  • March 10, 2015