logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Moliannwn di, O Arglwydd

Moliannwn di, O Arglwydd,
wrth feddwl am dy waith
yn llunio bydoedd mawrion
y greadigaeth faith;
wrth feddwl am dy allu
yn cynnal yn eu lle
drigfannau’r ddaear isod
a phreswylfeydd y ne’.

Moliannwn di, O Arglwydd,
wrth feddwl am dy ffyrdd
yn llywodraethu’n gyson
dros genedlaethau fyrdd;
wrth feddwl am ddoethineb
dy holl arfaethau cudd,
a’u nod i ddwyn cyfiawnder
o hyd i olau dydd.

Moliannwn di, O Arglwydd,
wrth feddwl am dy ras
yn trefnu ffordd i’n gwared
o rwymau pechod cas,
wrth feddwl am y gwynfyd
sydd yna ger dy fron
i bawb o’r gwaredigion,
‘nôl gado’r ddaear hon.

DEWI MÔN, 1836-1907

(Caneuon Ffydd 88)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan