logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Molianned uchelderau’r nef

Molianned uchelderau’r nef
yr Arglwydd am ei waith,
a cherdded sŵn ei foliant ef
drwy’r holl ddyfnderau maith.

Canmoled disglair sêr di-ri’
ddoethineb meddwl Duw,
ac yn ein dagrau dwedwn ni
mai doeth a chyfiawn yw.

Am ei sancteiddrwydd moler ef
gan gôr seraffiaid fyrdd;
atebwn ninnau ag un llef
mai sanctaidd yw ei ffyrdd.

Cyduned yr angylion glân
ei ddeddfau i fawrhau;
gweddïwn ninnau gyda’r gân
am ras i ufuddhau.

Trwy’r nefoedd wen o oes i oes
canmoler cariad Duw;
fe ganwn ninnau wrth y groes
mai Duw y cariad yw.

Molianned uchelderau’r nef
yr Arglwydd am ei waith,
a cherdded sŵn ei foliant ef
drwy’r holl ddyfnderau maith.

ELFED, 1860-1953

(Caneuon Ffydd 67, Grym Mawl 2:114)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan