logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mola’r Iôr

WELSH VERSION
Pennill 1
Mae ‘na reswm pam y chwalwyd melltith pechod
Mae ‘na reswm pam dry’r gwyll yn olau dydd
Mae ‘na reswm pam maddeuwyd ein pechodau
Iesu – mae E’n fyw

Pennill 2
Mae ‘na reswm pam na chawn ni byth ein trechu
Mae ‘na reswm pam y canwn drwy y nos
Mae ‘na reswm pam mae’n gobaith yn dragwyddol
Iesu – mae E’n fyw

Cytgan
Mola’r Iôr, atgyfododd
Mola’r Iôr, mae E’n fyw
Mola’r Iôr, trechwyd angau
Haleliwia, mae E’n fyw
Haleliwia, mae E’n fyw

Pennill 3
Mae ‘na reswm pam y gallwn fod yn eofn
Mae ‘na reswm pam y daw y meirw’n fyw
Mae ‘na reswm cawn ni rannu’i atgyfodiad
Iesu – mae E’n fyw (O mae E’n fyw)

Cytgan

Egwyl
O mae E’n fyw

Pont
Allai’r bedd ddim gwadu
Pan mae’r nef yn rhuo
Uffern ga’dd ei churo
Lle mae colyn bedd
Allai’r byd ddim gwadu
Pan mae’r saint yn rhuo
Uffern ga’dd ei churo
Lle mae colyn bedd

Cytgan

Diweddglo
Haleliwia, mae E’n fyw
Haleliwia, mae E’n fyw
Haleliwia, mae E’n fyw

Mola’r Iôr
Praise the King (Corey Voss, Dustin Smith, Michael Bryce Jr. a Michael Farren)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© 2014 Centricity Music Publishing (Gwein. gan Capitol CMG Publishing)
CentricSongs (Gwein. gan Capitol CMG Publishing)
Integrity’s Alleluia! Music (Gwein. gan Integrity Music)
Integrity’s Praise! Music (Gwein. gan Integrity Music)

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • September 29, 2021