logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mi wn mai byw yw ‘Mhrynwr gwyn

Mi wn mai byw yw ‘Mhrynwr gwyn –
Llawenydd gaf o wybod hyn!
Mae’n fyw – yr Hwn fu ar y pren;
Mae’n fyw, i mi’n dragwyddol Ben;
Mae’n fyw, i mi’n dragwyddol Ben.

Mae’n fyw, daw gras o’i gariad Ef;
Mae’n fyw i eiriol yn y nef;
Mae’n fyw i borthi’m henaid gwyw;
Mae’n fyw, a chymorth parod yw;
Mae’n fyw, a chymorth parod yw.

Mae’n fyw i’m cynnal i yn awr;
Mae’n fyw, im goncro angau gawr;
Mae’n fyw, i baratoi im le;
Mae’n fyw, i’m dwyn yn saff i’r ne’;
Mae’n fyw, i’m dwyn yn saff i’r ne’.

Mae’n fyw, gogoniant iddo ‘nawr;
Mae’n fyw, yr un Gwaredwr mawr;
Llawenydd gaf o wybod hyn,
Mi wn mai byw yw ‘Mhrynwr gwyn!
Mi wn mai byw yw ‘Mhrynwr gwyn!

(I know that my Redeemer lives) Samuel Medley (1738-99),
Cyfieithiad awdurdodedig: Dafydd M. Job

(Grym Mawl 2: 58)

PowerPoint