logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mi wela’r cwmwl du

Mi wela’r cwmwl du,
Yn awr ymron â ffoi,
A gwynt y gogledd sy
Ychydig bach yn troi:
‘N ôl tymestl fawr, daw yn y man
Ryw hyfryd hin ar f’enaid gwan.

Ni phery ddim yn hir
Yn ddu dymhestlog nos;
Ni threfnwyd oesoedd maith
I neb i gario’r groes;
Mae’r hyfryd wawr sy’n codi draw
Yn dweud bod bore braf gerllaw.

Mi welaf olau’r haul
Ar fryniau tŷ fy Nhad,
Yn dangos imi sail
Fy iachawdwriaeth rad:
Fod f’enw fry ar lyfrau’r nef,
Ac nad oes a’i dilea ef.

William Williams, Pantycelyn

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 269)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 23, 2015