Mi welaf yn ei fywyd,
Y ffordd i’r nefoedd fry,
Ac yn ei angau’r taliad
A roddwyd drosof fi.
Yn ei esgyniad gwelaf
Drigfannau pur y nef
A’r wledd dragwyddol berffaith,
Gaf yno gydag Ef.
‘N ôl edrych ar ôl edrych,
O gwmpas imi mae
Rhyw fyrdd o ryfeddodau
Newyddion yn parhau;
Pan fwy’n rhyfeddu unpeth,
Peth arall ddaw i’m bryd –
O! iachawdwriaeth rasol!
Rhyfeddol wyt i gyd!
Bendithion ar fendithion
Trysorau angau loes,
Grawnsypiau mawrion aeddfed
Yn hongian ar y Groes,
Sydd yn cwmpasu f’enaid,
Rhinweddau mawr eu grym;
A minnau yn eu canol
Heb allu dwedyd dim.
Edward Young efel. William Williams, Pantycelyn
(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 281)
PowerPoint