logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mi edrychaf ar i fyny

Mi edrychaf ar i fyny,
deued t’wyllwch, deued nos;
os daw heddwch im o unlle,
daw o haeddiant gwaed y groes;
dyna’r man y gwnaf fy nhrigfan,
dyna’r man gobeithiaf mwy:
nid oes iechyd fyth i’m henaid
ond mewn dwyfol, farwol glwy’.

Gobaith f’enaid yw ei haeddiant,
gobaith f’enaid yw ei rym;
tlawd a llesg a gwan ac ynfyd
ydwyf fi, heb feddu dim:
trwodd draw yr wyf yn edrych
dros y bryniau mawrion, pell,
ac yn disgwyl fy ngorffwysfa
o gyfiawnder llawer gwell.

WILLLAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 514)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 5, 2015