logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mi debygaf clywaf heddiw

Mi debygaf clywaf heddiw
Sŵn caniadau draw o bell,
Torf yn moli am waredigaeth,
Ac am ryddid llawer gwell;
Gynau gwynion yw eu gwisgoedd,
Palmwydd hyfryd yn eu llaw,
A hwy ânt gyd â gogoniant
Mewn i’r bywyd maes o law.

Minnau bellach orfoleddaf
Fod y Jiwbil fawr yn dod,
A chyflawnir pob rhyw sillaf
A lefarodd Iesu erioed;
De a gogledd yn fyrddiynau,
Ddaw o eithaf tywyll fyd,
Gyda dawns ac utgyrn arian,
Mewn i Salem bur ynghyd.

William Williams (1717-1791)
(Llawlyfr Moliant Newydd: 597)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • September 10, 2015