logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mi dafla’ ‘maich oddi ar fy ngwar

Mi dafla’ ‘maich oddi ar fy ngwar
wrth deimlo dwyfol loes;
euogrwydd fel mynyddoedd byd
dry’n ganu wrth dy groes.

Os edrych wnaf i’r dwyrain draw,
os edrych wnaf i’r de,
ymhlith a fu, neu ynteu ddaw,
‘does debyg iddo fe.

Fe roes ei ddwylo pur ar led,
fe wisgodd goron ddrain
er mwyn i’r brwnt gael bod yn wyn
fel hyfryd liain main.

Esgyn a wnaeth i entrych nef
i eiriol dros y gwan;
fe sugna f enaid innau’n lân
i’w fynwes yn y man.

Ac yna caf fod gydag ef
pan êl y byd ar dân,
ac edrych yn ei hyfryd wedd,
gan’ harddach nag o’r blaen.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 493; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 51)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 5, 2015