logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mewn cyfyngderau bydd yn Dduw

Mewn cyfyngderau bydd yn Dduw,
Nid wyf ond gwyw a gwan;
Nid oes ond gallu mawr y nen
A ddeil fy mhen i’r lan.

Ni fedda’i mewn nac o’r tu maes
Ond nerthol ras y Nef
Yn erbyn pob tymhestloedd llym,
A’r storom gadarn gref.

Cysurwch fi, afonydd pur,
Rhedegog ddyfroedd byw,
Sy’n tarddu o dan riniog cu
Sancteiddiaf dŷ fy Nuw.

William Williams, Pantycelyn

PowerPoint