logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mewn cof o’th aberth wele ni

Mewn cof o’th aberth wele ni,
O Iesu, ‘n cydnesáu;
un teulu ydym ynot ti,
i’th garu a’th fwynhau.

Dy gariad di dy hun yw’r wledd –
ni welwyd cariad mwy;
ffynhonnau o dragwyddol hedd
a dardd o’th farwol glwy’.

Er mwyn y gras a ddaeth i ni
o’th ddwyfol aberth drud,
gwna’n cariad fel dy gariad di
i gynnwys yr holl fyd.

Gwna’r teulu oll sydd ar y llawr
fel teulu’r nef yn un:
a selia ninnau yma nawr
yn eiddo i ti dy hun.

ELFED, 1860-1953

(Caneuon Ffydd 631)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • April 29, 2015