logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mawrygwn di, O Dduw

Mawrygwn di, O Dduw,
am bob celfyddyd gain,
am harddwch ffurf a llun,
am bob melyster sain:
ti’r hwn sy’n puro ein dyheu,
bendithia gamp y rhai sy’n creu.

Mawrygwn di, O Dduw,
am ein treftadaeth hen,
am rin y bywyd gwâr
ac am drysorau llên:
ti’r hwn sy’n puro ein dyheu,
bendithia gamp y rhai sy’n creu.

Mawrygwn di, O Dduw,
am wreiddiau i’n bywhau
ac am gymdeithas dda
sy’n cymell dy fawrhau:
ti’r hwn sy’n puro ein dyheu,
bendithia gamp y rhai sy’n creu.

W. RHYS NICHOLAS, 1914-96 © Richard E. Huws

(Caneuon Ffydd: 822)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • January 18, 2016