logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mawr yw ein Duw

Mawr yw ein Duw, mawr yw ein Duw,
Mawr yw ein Duw, mawr yw ein Duw.
Mawr yw ein Duw, mawr yw ein Duw,
Mawr yw ein Duw, mawr yw ein Duw.

 
Fe greodd y gwynt, yr eira a’r haul,
Y tonnau ar draethau, y blodau a’r dail.
Fore a hwyrnos, gaeaf a haf;
Ymunwch â’r cread ar gân.

Mae’n anfon ei roddion
o’r newydd bob dydd –
Gogoniant y machlud a’r glaw lifa’n rhydd;
Y niwl ar y bryniau a throad y rhod;
Ymunwch â’r cread mewn clod.

Am ddawns a cherddoriaeth,
a chyfoeth pob iaith;
Am fywyd i’w rannu –
Sul, gŵyl a gwaith, – canwn:

Cyfieithiad Awdurdodedig: Dafydd Timothy, Our God is great: Dave Bilbrough
© 1996 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/
Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music
tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd

(Grym Mawl 2: 109)

PowerPoint