logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mawr dy ffyddlondeb

Mawr dy ffyddlondeb,
fy Nuw, yn dy nefoedd,
Triw dy addewid bob amser i mi;
Cadarn dy Air, dy drugaredd ni fetha,
Ddoe, heddiw’r un, a thragwyddol wyt ti.

Mawr dy ffyddlondeb di,
mawr dy ffyddlondeb di,
Newydd fendithion bob bore a ddaw;
Mawr dy ffyddlondeb i mi yn fy angen,
Pob peth sydd dda,
fe’i derbyniais o’th law.

Gaeaf a haf, amser hau a phryd medi,
Haul, lloer a sêr
ar eu llwybrau drwy’r nef,
Unant â’r cread bob dydd i fynegi –
‘Mawr dy ffyddlondeb o hyd!’ yw eu llef.

Pardwn am bechod,
tangnefedd i’r galon,
Bendith dy gwmni i’m harwain bob dydd;
Cryfder wyt heddiw, a gobaith yfory;
Bendithion lu ar fy nghyfer i sydd.

Thomas Chisholm, (Great is your faithfulness), cyfieithiad awdurdodedig Dafydd M. Job
©1923 Adnewyddwyd 1951 gan Hope Publishing. Gweinyddir gan Copycare.

(Grym Mawl 2: 36)

PowerPoint