logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mawl i Dduw am air y bywyd

Mawl i Dduw am air y bywyd,
gair y nef yn iaith y llawr,
gair y cerydd a’r gorchymyn,
gair yr addewidion mawr;
gair i’r cadarn yn ei afiaith,
gair i’r egwan dan ei bwn,
cafodd cenedlaethau daear
olau ffydd yng ngeiriau hwn.

Traetha hwn am ddeddfau’r Arglwydd
a gwynfydau Mab y Dyn,
am yr arfaeth fawr, dragwyddol
ac am gariad Duw ei hun;
mae rhybuddion yn ei eiriau
rhag y drwg sy’n llygru oes,
ac addewid i droseddwyr
am faddeuant drwy y groes.

Fel y bu ei addewidion
gynt i’n tadau’n hyfryd wledd,
diolch am ei dderbyn eto
yn ein hiaith ar newydd wedd;
aed ei neges eto’n eirias
drwy genhadaeth plant y ffydd,
fel y delo’n air y bywyd
i drigolion Cymru fydd.

GWILYM R. TILSLEY, 1911-97 © Gareth M. Tilsley. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 201)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • January 18, 2016