logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Marchog, Iesu, yn llwyddiannus

Marchog, Iesu, yn llwyddiannus,
Gwisg dy gleddau ‘ngwasg dy glun;
Ni all daear dy wrth’nebu,
Chwaith nac uffern fawr ei hun:
Mae dy enw mor ardderchog,
Pob rhyw elyn gilia draw;
Mae dy arswyd drwy’r greadigaeth;
Tyrd am hynny maes o law.

Tyn fy enaid o’i gaethiwed,
Gwawried bellach fore ddydd,
Rhwyga’n chwilfriw ddorau Babel,
Tyn y barrau heyrn yn rhydd;
Gwthied caethion yn finteioedd,
Allan, megis tonnau llif,
Torf a thorf, dan orfoleddu,
Heb na diwedd fyth na rhif.

William Williams (1717-1791)
(Llawlyfr Moliant Newydd: 594)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • September 10, 2015