logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Maith yw’r nos a mawr yw’r t’wyllwch

(Gweddi am nerth)

Maith yw’r nos a mawr yw’r t’wyllwch,
P’odd y galla’i threulio i maes
Heb gael, Arglwydd, dy gymdeithas,
Nerth dy anorchfygol ras?
Gormod gofid,
Gallu hebot yma fyw.

Mae fy mhechod yn fy erbyn,
Fel y moroedd mawr eu grym:
Dilyw cryf heb fesur arno,
Nid oes a’i gwrthneba ddim;
Tad tosturi,
Rho gyfiawnder im a nerth.

Os agori im dy fynwes,
I gael gweld y cariad llawn,
Lifodd allan fel y morodd
Ar Galfaria un prynhawn,
Ti gei’r cwbwl
Roddaist imi yn fy rhan.

William Williams, Pantycelyn

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 503)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 29, 2015