logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mae’r nos yn ddu, a gwynt nid oes

Mae’r nos yn ddu, a gwynt nid oes,
un seren sy’n y nef,
a ninnau’n croesi maes a bryn
i’r fan y gorwedd ef,
holl obaith dyn yw ef.

Nid oes ogoniant yn y fan,
dim ond yr eiddo ef,
a’r golau mwyn ar wyneb Mair
fel gweddi tua’r nef,
o galon mam i’r nef.

Nid mangre geni t’wysog yw,
nid man i lawen lu,
er hynny, clywodd nef a llawr
ganiadau’r engyl fry,
orfoledd engyl fry.

O faban glân, mor brudd yw’n bron
gan wae sy’n gwywo’n gwedd:
O canwn iti’r bore hwn
ganiadau newydd hedd,
ganiadau bythol hedd.

ARTHUR L. SALMON, 1865-1952  cyf. T. GWYNN JONES, 1871-1949
Hawlfraint © y geiriau Cymraeg,  ystad ac etifeddion T. Gwynn Jones. Cedwir pob hawl

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • February 16, 2016