logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mae’r nos fu’n llethu d’Eglwys flin

Mae’r nos fu’n llethu d’Eglwys flin
ar dorri’n wawr hyderus,
a throir galaru hir dy blant
yn foliant gorfoleddus,
a thyf y dafnau mân cyn hir
yn gawod gref i ddeffro’n tir.

Rho i ni newyn am dy ddawn
nes cawn ein llwyr ddigoni,
a syched nes cawn uno’r floedd
fod llynnoedd gras yn llenwi;
na ad in orffwys yn dy waith
nes troir addewid ffydd yn ffaith.

Gwisg ni ag arfau d’Ysbryd Glân
er difa nerth diafol,
doed byddin Iesu ymhob man,
oedd egwan, yn fuddugol;
nid lladd yw rhyfel milwyr Duw
ond ysgwyd meirwon eto’n fyw.

A llawn fo genau pawb o’th blant
o foliant a gorfoledd,
ac aed dy Ysbryd drwy bob bro
i rodio mewn anrhydedd,
a seria Gymru oeraidd, drist
yn Gymru danbaid Iesu Grist.

SIÔN ALED (©Siôn Aled, defnyddiwyd drwy ganiatâd)

(Caneuon Ffydd 605)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015