logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mae’r iachawdwriaeth rad

Mae’r iachawdwriaeth rad
Yn ddigon i bob rhai;
Agorwyd ffynnon er glanhad
Pob pechod cas a bai.

Daw tyrfa rif y gwlith
Yn iach trwy rin y gwaed:
Pwy ŵyr na byddaf yn eu plith,
Yn lân o’m pen i’m traed?

Er lleted yw fy mhla,
Er dyfned yw fy mriw,
Y balm o Gilead a’m iachâ –
Mae Crist yn Feddyg gwiw.

Dan bwys euogrwydd du,
Edrychaf tua’r Groes,
Lle llifodd gwaed fy Mhriod cu:
Anfeidrol Iawn a roes.

Pedr Fardd

( Y Llawlyfr Moliant Newydd: 04)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 22, 2015