logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mae’r Gŵr a fu gynt yn y llys

Mae’r Gŵr a fu gynt yn y llys
dan bwysau gefynnau yn gaeth,
yr awron yn anfon ei wŷs
frenhinol dros drum a thros draeth:
ardderchog Eneiniog y nef,
‘does undim a’i lluddias yn awr;
mae’n crwydro, yn troedio pob tref
a’i le ymhob lle ar y llawr.

Mae’r baban fu’n fychan ei fyd,
yn rhynnu ar wely o wair,
yn syndod y gofod i gyd
a’r bydoedd yn bod wrth ei air:
mae’r Un a fu’n blentyn ei oes,
yn gaeth i’w genhedlaeth ei hun,
yn perthyn i’r oesau drwy’r groes,
yn unwr, cydoeswr pob dyn.

Mae’r Gair gynt a wnaethpwyd yn gnawd
a’i gloi o fewn amser dros dro,
yr Arglwydd a anwyd yn dlawd
heb ennaint, heb fraint yn ei fro,
yn awr heb na therfyn na ffin
i’w faith bersonoliaeth na’i glod:
mae’n t’wynnu drwy’r bara a’r gwin,
mae’n pefrio drwy bopeth sy’n bod.

D. G. MERFYN JONES, 1916-98 © Gŵyl Fawr Aberteifi. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 348)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • February 16, 2016