logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mae’r gwaed a redodd ar y groes

Mae’r gwaed a redodd ar y groes
o oes i oes i’w gofio;
rhy fyr yw tragwyddoldeb llawn
i ddweud yn iawn amdano.

Prif destun holl ganiadau’r nef
yw “Iddo ef” a’i haeddiant;
a dyna sain telynau glân
ar uchaf gân gogoniant.

Mae hynod rinwedd gwaed yr Oen
a’i boen wrth achub enaid
yn seinio’n uwch ar dannau’r nef
na hyfryd lef seraffiaid.

Mhen oesoedd rif y tywod mân
ni fydd y gân ond dechrau;
rhyw newydd wyrth o’i angau drud
a ddaw o hyd i’r golau.

Ni thraethir maint anfeidrol werth
ei aberth yn dragywydd:
er treulio myrdd o oesoedd glân
ni fydd y gân ond newydd.

ROBERT AP GWILYM DDU, 1766-1850

(Caneuon Ffydd 492)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015