logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mae’r gaeaf ar fy ysbryd

Mae’r gaeaf ar fy ysbryd,
O Dad o’r nef,
‘rwy’n erfyn am dy wanwyn,
erglyw fy llef;
O achub fi rhag oerfel
fy mhechod cas
a dwg fi i gynhesrwydd
dy nefol ras.

Mae’r byd yn llanw ‘nghalon,
drugarog Dduw,
‘rwy’n erfyn am dy Ysbryd,
fy ngweddi clyw;
lladd ynof bob dyhead
sy’n llygru ‘mryd,
nes delwyf o’m caethiwed
yn wyn fy myd.

Mae gwacter yn fy enaid,
fy Arglwydd Iôr,
‘rwy’n erfyn am gyflawnder
dy ddwyfol stôr;
O gwared fi o’m newyn
a’m tlodi blin,
diwalla fi â gwleddoedd
dy ryfedd rin.

W. RHYS NICHOLAS, 1914-96 © Richard E. Huws

(Caneuon Ffydd: 796)

PowerPoint