logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mae’r frwydr yn eiddo i Ti

Pennill 1
Pan wela’i ddim ond y frwydr
Ti’n gweld buddugoliaeth
Pan wela’i ddim ond y mynydd
Ti’n gweld e’n mynd o’th flaen
Pan gerddaf i drwy’r cysgodion
Mae’th gariad o ‘nghwmpas
Does dim nawr i’w ofni
Rwy’n ddiogel gyda Ti

Corws
Ac ar fy ngliniau y brwydraf o’th blaid
Gyda’m dwylo tua’r nef
O Dduw, mae’r frwydr yn eiddo i Ti
Rwy’n ildio pob un ofn o dy flaen
Fe ganaf drwy’r nos
O Dduw, mae’r frwydr yn eiddo i Ti

Pennill 2
Ac os wyt o ‘mhlaid i
Pwy all fod yn f’erbyn
O Iesu does dim byd
Amhosibl i Ti
Pan wela’i ddim ond y lludw
Ti’n gweld hyfrydwch
Pan wela’i ddim ond y groes
Dduw, rwyt Ti’n gweld bedd sy’n wag

Corws

Pont
Gaer Hollalluog, Ti’n mynd o’n blaen ni
All dim byd sefyll o flaen
Pŵer mawr ein Duw
Yn ddisglair mewn t’wyllwch
Ti’n ennill pob brwydr
All dim byd sefyll o flaen
Pŵer mawr ein Duw

Corws

Tag
O Dduw, mae’r frwydr yn eiddo i Ti

Mae’r frwydr yn eiddo i Ti
CCLI # 7172013
BATTLE BELONGS (JOHNSON | WICKHAM)
© Phil Wickham Music (Gwein. gan Song Solutions www.songsolutions.org)/ Simply Global Songs (Gwein. gan Song Solutions www.songsolutions.org)/ Sing My Songs (Gwein. gan Song Solutions www.songsolutions.org)/ Bethel Music Publishing (Gwein. gan Song Solutions)

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • March 24, 2021