logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mae’r Duw anfeidrol mewn trugaredd

Mae’r Duw anfeidrol mewn trugaredd,
er mai Duw y cariad yw,
wrth ei gofio, imi’n ddychryn,
imi’n ddolur, imi’n friw;
ond ym mhabell y cyfarfod
y mae ef yn llawn o hedd,
yn Dduw cymodlon wedi eistedd
heb ddim ond heddwch yn ei wedd.

Cael Duw yn Dad, a Thad yn noddfa,
noddfa’n graig, a’r graig yn dŵr,
mwy nis gallaf ei ddymuno
gyda mi mewn tân a dŵr:
ohono ef mae fy nigonedd,
ynddo drwy fyddinoedd af;
hebddo, eiddil, gwan a dinerth,
colli’r dydd yn wir a wnaf.

ANN GRIFFITHS, 1776-1805

(Caneuon Ffydd 192)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2015