logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mae’r Brenin yn y blaen

Mae’r Brenin yn y blaen,
‘rŷm ninnau oll yn hy,
ni saif na dŵr na thân
o flaen ein harfog lu;
ni awn, ni awn dan ganu i’r lan,
cawn weld ein concwest yn y man.

Ni welir un yn llesg
ym myddin Brenin nef
cans derbyn maent o hyd
o’i nerthoedd hyfryd ef;
ni gawn, ni gawn y gloyw win
o felys ryw, sancteiddiol rin.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 80; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 266)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan