logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mae’r Arglwydd yn cofio y dryw yn y drain

Mae’r Arglwydd yn cofio y dryw yn y drain,
ei lygad sy’n gwylio y wennol a’r brain;
nid oes un aderyn yn dioddef un cam,
na’r gwcw na bronfraith na robin goch gam.

Rhown foliant i Dduw am ein cadw ninnau’n fyw,
am fwyd ac am ddillad moliannwn ein Duw;
rhown foliant i Dduw am ein cadw ninnau’n fyw,
am fwyd ac am ddillad moliannwn, moliannwn ein Duw.

Mae’n cofio’n garedig am adar y to,
caiff pob titw bychan ei fwyd yn ei dro;
ehedydd y mynydd a gwylan y môr
sy’n derbyn eu cinio o ddwylo yr Iôr.

Yr Arglwydd sy’n cofio y lili fwyn, wen
a’i gwisgo yn hyfryd o’i thraed hyd ei phen;
rhydd wisgoedd o borffor i’r grug ar y bryn
a mantell y rhosyn yn goch ac yn wyn.

Mae’n rhoddi hardd fenig i fysedd y cŵn
a gwelwch y ddraenen mor deg yn ei gŵn;
briallu y cloddiau a mwyar y ffos,
gofala amdanynt bob dydd a phob nos.

GOMER M. ROBERTS, 1904-93 © Mair Edwards. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 157)

PowerPoint