logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mae Ysbryd y tragwyddol Dduw’n gorwedd arnoch

Mae Ysbryd y tragwyddol Dduw’n gorwedd arnoch,
Daeth i’ch eneinio oll i ddwyn y newydd da.
Mae Ysbryd y tragwyddol Dduw’n gorwedd arnoch,
Daeth i’ch eneinio oll i ddwyn y newydd da.

Fe’ch anfonodd at y tlodion, (Fe ddaeth y dydd,)
I gysguro’r gwan o galon, (Fe ddaeth yr awr,)
I ryddhau y carcharorion, (Fe ddaeth y dydd,)
Ac i oleuo’r rhai mewn t’wyllwch.

A dyma hi – blwyddyn ffafr ein Duw yn hi,
Fe ddaeth y dydd; dydd dialedd ein Duw ni,
Y Jiwbili; blwyddyn ffafr ein Duw yw hi,
Fe ddaeth y dydd; dydd dialedd ein Duw ni.

Mae Ysbryd y tragwyddol Dduw’n gorwedd arnom,
Daeth i’n heneinio oll i ddwyn y newydd da.
Mae Ysbryd y tragwyddol Dduw’n gorwedd arnom,
Daeth i’n heneinio oll i ddwyn y newydd da.

Fe ddiddana’r rhai galarus, (fe ddaeth y dydd,)
A chysura’r rhai sy’n ofnus, (Fe ddaeth yr awr,)
Fe gant goron yn lle lludw, (Fe ddaeth y dydd,)
A llawenydd yn lle wylo.

Andy Park: The Spirit of the sov’reign Lord, Cyfieithiad Awdurdodedig: Casi Jones
Hawlfriant © 1992 Mercy/Vineyard Publishing.
Gweinyddir gan CopyCare.

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 23, 2015