logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mae yna ddydd

Mae yna ddydd
mae’r Cread cyfan am ei weld;
y dydd o ryddid pan ddaw y ddaear oll yn rhydd.
A dyna’r dydd
y cwrdd yr Iôr â’i briod Ef;
ac wrth ei weled,
ar amrantiad fe’n newidir.

Yr utgorn gân,
a’r meirw ddaw yn ôl yn fyw –
trwy ei allu,
bellach byth i ddarfod mwy.
Gynt, ddim ond cnawd,
mewn anfarwoldeb gwisgir hwy;
angau lyncwyd
nawr mewn buddugoliaeth lawn.

Yn yr awyr, cwrdd ag Ef,
tebyg iddo y byddwn;
a chawn ei weld Ef fel y mae –
fel y mae!
Bydd pob cur a phoen ar ben,
byddwn gydag ef byth bythoedd,
yn ei ogoniant fe gawn fyw –
Cawn fyw! Cawn fyw!

Dy lygaid cod
at yr hyn sydd eto ’nghudd,
yr hyn a erys
i dragwyddoldeb maith.
Er gofid blin,
dros dro yn unig mae;
ac mae’n cyflawni y gogoniant ddaw i ni.

Teitl Saesneg: There is a day        Geiriau: Nathan Fellingham
Cyfieithiad Cymraeg awdurdodedig: John Pritchard

Gwylio’r fersiwn Saesneg ar youtube
  • Gwenda Jenkins,
  • June 15, 2018