Gobaith

Mae tywyll anial nos

Mae tywyll anial nos,
Peryglon o bob rhyw,
Holl ofnau’r bedd, pob meddwl gwan,
Yn ffoi o’r fan bo ‘Nuw:
Ond tegwch dwyfol clir,
A chariad pur a hedd,
Gaiff fod yn wleddoedd pur di-drai
I’r rhai sy’n gweld ei wedd.

Lle byddych Di, fy Nuw,
Anfarwol fywyd sy,
Yn tarddu, megis dŵr o’r graig,
I’r lan i’r nefoedd fry:
Rhyw wawr ddisgleirwen sydd
Yn twnnu ohono Ef,
Yn arwain, trwy bob ffos a nant,
Holl ffyddlon blant y nef.

Ffarwél, chwi haul a lloer,
Ffarwél, chwi sêr y ne';
Mae presenoldeb pur fy Nuw
Yn well yn llanw’r lle:
Rhyw faith dragwyddol ddydd,
Goleuni sydd yn fwy,
Yw’r hwn a ddaw oddi wrth ei wedd,
Na’u holl ddisgleirdeb hwy.

William Williams, Pantycelyn

PowerPoint