logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mae rhwydwaith dirgel Duw

(Brawdoliaeth)

Mae rhwydwaith dirgel Duw
yn cydio pob dyn byw;
cymod a chyflawn we
myfi, tydi, efe:
mae’n gwerthoedd ynddo’n gudd,
ei dyndra ydyw’n ffydd;
mae’r hwn fo’n gaeth yn rhydd.

Mae’r hen frawdgarwch syml
tu hwnt i ffurfiau’r deml;
â’r Lefiad heibio i’r fan,
plyg y Samaritan;
myfi, tydi, ynghyd
er holl raniadau’r byd
efe’n cyfannu’i fyd.

Mae cariad yn dref-tad
tu hwnt i ryddid gwlad;
cymerth yr Iesu ran
yng ngwledd y publican;
mae concwest wych nas gwêl
y Phariseaidd sêl:
henffych y dydd y dêl.

Mae Teyrnas gref, a’i rhaith
yw cydymdeimlad maith;
cymod a chyflawn we
myfi, tydi, efe
a’n cyfyd uwch y cnawd:
pa werth na thry yn wawd
pan laddo dyn ei frawd?

WALDO WILLIAMS, 1904-71 © Eluned Richards. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 280)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • January 28, 2016