logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mae pererinion draw o’m blaen

Mae pererinion draw o’m blaen,
Yn canu’r anthem bur,
Ac heddiw’n edrych, fel o bell,
Ar ddrysni’r diffaith dir.

O! nertha finnau i edrych draw,
Heb ŵyro o un tu,
Nes i mi gyrraedd disglair byrth
Caersalem newydd fry.

Rho’r delyn euraidd yn ein llaw,
Ac yn ein hysbryd dân,
Ac yn mheryglon anial dir
Erfyniau pur a chân.

Ni awn fel hyn yn ngwres y ne’,
Fel un lluosog lu,
Drwy demtasiynau heb ddim rhif,
I mewn i’r nefoedd fry.

William Williams, Pantycelyn

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 81)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 23, 2015