logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mae nghalon i yn llawn edmygedd

Mae ‘nghalon i yn llawn edmygedd
I ti fy Nuw, fy Mrenin mawr;
Dy fawredd di yw fy ysgogiad,
Geiriau dy ras yw alaw’r gân o’m mewn.
 
O garu’r da, ac nid drygioni –
Fe rydd dy Dduw dy wobr i ti,
Ac ar dy ben, rhydd olew sanctaidd
A thaenu persawr dros dy balas di.

Eiddot Arglwydd yw derbyn mawl,
Pob parch a bri, pob parch a bri;
Iesu, f’Arglwydd, y Sanctaidd Un
Fe’th folaf di, fe’th folaf di.

Saif d’orsedd, Dduw, am dragwyddoldeb,
Tegwch a fydd y gyfraith bur;
Marchoga nawr yn ogoneddus
Er mwyn yr hyn sy’n gyfiawn ac yn wir.

Graham Kendrick : My heart is full, cyfieithiad awdurdodedig: Tudur Hallam
©1991 Make Way Music

(Grym Mawl 2: 97)

PowerPoint