logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mae llais y gwyliwr oddi draw

Mae llais y gwyliwr oddi draw
yn dweud bod bore llon gerllaw:
cymylau’r nos sy’n cilio ‘mhell
o flaen goleuni dyddiau gwell,
a daw teyrnasoedd daear lawr
i gyd yn eiddo’n Harglwydd mawr.

Y dwyrain a’r gorllewin sydd
o’u rhwymau blin yn dod yn rhydd,
ac unir de a gogledd mwy
drwy ryfedd rinwedd marwol glwy’;
mor hyfryd gweled toriad gwawr
hardd ddyddiau’r nefoedd ar y llawr.

Pob awel draetho gyda swyn
am eni’r Iesu, Geidwad mwyn;
cenhadon fyddo tonnau’r lli
i daenu hanes Calfarî;
pob iaith fo’n un mewn anthem gref
yn fôr o foliant iddo ef.

CERNYW, 1843-1937

(Caneuon Ffydd 269)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015